Cymorth ynglŷn â’r Cofnodwr
Gweler hefyd y Cyflwyniad
* Mae’r meysydd hanfodol wedi’u dynodi â seren goch.
Cyhoeddi’n ddienw
Rhowch wybod os nad ydych chi am i enw’ch prosiect a’ch grŵp gwirfoddol gael eu cysylltu â’ch ymchwil yn y cofnod cyhoeddedig a’ch bod am ei chyhoeddi’n ddienw.
Llofnod
Rhowch wybod os ydych chi am i enw’ch prosiect a’ch grŵp gwirfoddol gael eu cysylltu â’ch ymchwil yn y cofnod cyhoeddedig ynteu a ydych chi am ei chyhoeddi’n ddienw.
Telerau ac amodau
Ticiwch y blwch i gytuno â thelerau ac amodau prosiect Treftadaeth yr Ymgyrch Gartref ynglŷn ag iechyd a diogelwch a rhannu’ch gwybodaeth er mwyn hybu’r prosiect.
Cadw
Cadwch eich ffurflen yn gyson wrth ichi ei llenwi. Os ydych chi’n rhag-weld y bydd y signal ar y safle’n wael, cliciwch Cadw er mwyn arbed y ffurflen yn eich dyfais a bydd hynny’n caniatáu ichi ei llenwi heb fod ar-lein.
Cyflwyno
Cyflwynwch eich ffurflen ac unrhyw ffotograffau neu ffeiliau rydych chi wedi’u hatodi. Os ydych chi yn y maes ond yn gweithio heb fod ar-lein, cliciwch Cadw ac wedyn cliciwch Cyflwyno ar ôl i’ch signal WiFi neu 3G ddychwelyd. Bydd eich ffurflen yn caele ei chadw’n awtomatig bob deng munud. Dim ond un ffurflen gofnodi ar y tro y gallwch ei llenwi. Ar ôl ichi gyflwyno’r ffurflen, bydd y meysydd yn clirio a chewch gyflwyno safle arall. Bydd eich data cofnodi’n cael ei gadw mewn cronfa ddata gan y prosiect i gael ei gyrchu gan wasanaeth y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol perthnasol. Ar ôl ei gyflwyno, does dim modd golygu’r data.
Rhowch enw’r cysylltwr ynglŷn â’r cofnodi a chyfeiriad e-bost ac enw’ch grŵp gwirfoddol a/neu eich prosiect os yw hynny’n berthnasol. Fydd yr wybodaeth hon ddim yn ymddangos yn y cofnodion cyhoeddus ond fe fydd yn cael ei chadw gyda’ch data at ddibenion cyfeirio.
Ailosod
Os nad ydych chi am gyflwyno’r wybodaeth rydych chi wedi’i nodi, gallwch ailosod y ffurflen a dechrau eto.